Y PIN
Llonydd yw llyn y nos yn y cwm,
Yn ei gafn di-wynt;
Cwsg Oriön a’r Ddraig ar ei wyneb plwm,
Araf y cyfyd y llower a nofio’n gyntunus i’w hynt.Wele’n awr awr ei dyrchafael.
Chwipyn pelydri dithau o’i blaen a phicell dy lam
O fôn i frig dan ei thrafael
Yn ymsaethu i galon y gwyll fel Cannwyll y Pasg dan ei fflam:
Ust, saif y nos o’th gylch yn y gangell glaear
Ac afrlladen nef yn croesi â’i bendith y ddaear.
Saunders Lewis – Y Pin